Rhifyn 3 - Sut i gynnal canolfan ymwelwyr lwyddiannus - Bwlch Nant yr Arian
Manage episode 313077746 series 3258026
Rydym ym Mynyddoedd Cambria yng Nghanolbarth Cymru yn y bennod yma yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian. Mae'r ganolfan wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn 2021 er gwaetha heriau pandemig Covid-19.
Eleni, fe enillodd y ganolfan y TripAdvisor Travellers’ Choice Award unwaith eto; gwobr mae’r ganolfan wedi'i hennill ers nifer o flynyddoedd yn olynol erbyn hyn. Mae'r wobr yn cydnabod lleoliadau sy'n ennill adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn gyson. Mae hyn yn golygu bod y safleoedd yn y 10% uchaf o leoliadau a restrir ar y wefan deithio boblogaidd.
Hefyd eleni, dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd i'r ganolfan am y tro cyntaf. Mae'r wobr – sy’n cael ei gynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus yng Nghymru - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr.
Bwlch Nant yr Arian yw'r ail safle CNC yn unig i dderbyn y Faner Werdd ar ôl i Ganolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful dderbyn y wobr yn 2016.
Felly pa fath o ymdrech sydd angen tu ôl i’r llen i ennill y gwobrau hyn a bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol? Dyna beth oeddem ni eisiau darganfod.
21 odcinków