Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 23ain o Ionawr 2024.
Manage episode 397074575 series 1301561
Pigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a’r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish Army
Catrawd Regiment
Brwydro To fight
Hanu o To haul from
Cipio To capture
Gwlad Pwyl Poland
Dengid Dianc
Rhyddhau To release
Mewn dyfynodau In exclamation marks
Y Dwyrain Canol The Middle East
Pigion Dysgwyr – Esgusodwch Fi Anne Uruska yn fanna‘n sôn am hanes diddorol ei thad, ac mae’n siŵr bod llawer ohonoch chi’n nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i’r gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal â nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i sôn am un o’i brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix…. Cyfarwyddwr Director
Cyfresi Series
Diweddara Most recent
Dau grwt Dau fachgen
Eisoes Already
Ehangach Wider
Cenhedlaeth Generation
Profiad Experience
Yn ddynol Human
Hoyw Gay Pigion Dysgwyr – Antarctica Euros Lyn oedd hwnna’n sôn am y gyfres Heartstopper sydd i’w gweld ar Netflix. Does dim llawer o bobl sy’n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi’n siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha…. Biolegydd morol Marine biologist
Llong Ship
Cynefin Habitat
Anghyfforddus Uncomfortable
Sbïad Edrych
Pigion Dysgwyr – Diwrnod Cenedlaethol yr Het Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on’d yw hi? Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi Casgliad sylweddol A substantial collection
Cael gwared To get rid
Hen dylwyth Old family
Menyw Dynes
Drych Mirror
Pigion Dysgwyr – Clare Potter
A dw i’n siŵr bod Angela’n edrych yn smart iawn yn ei hetiau. Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd. Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i’r Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru. Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George Llenyddiaeth Literature
Bardd Poet
Ysbrydoli To inspire
Mam-gu Nain
Emynau Hymns
Rhegi To swear
O dan y wyneb Under the surface
Ffili credu Methu coelio
Braint A privilege
Pigion Dysgwyr – Nofio Gwyllt Beti George yn fanna’n sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha. Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o’r enw Y Cyntaf a’r Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o’r enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e’n byw a dyma fe’n sôn wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e’n ei wneud…. Degawdau Decades
Llynnoedd Lakes
371 odcinków